Nos Wener y 4ydd o Dachwedd llwyddodd Côr y Gleision i sicrhau’r wobr gyntaf yng nghystadleuaeth y Côr Agored yn Eisteddfod y Cymoedd drwy guro Côr Godre’r Garth a ddaeth yn ail, a Bechgyn Bro Taf a Chôr Cwm Ni a ddaeth yn gydradd drydydd. Beirniaid y gystadleuaeth oedd Eleri Roberts, Arweinyddes Côr Heol y March a Meinir Richards, Arweinyddes Côr Cymysg Llanddarog.
Hwn oedd degfed blwyddyn Eisteddfod y Cymoedd a sefydlwyd i ddathlu Cymreictod yng Nghwm Rhymni a chynhaliwyd yr Eisteddfod yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni, Caerffili.
‘Dw i mor browd o’r Côr yn ennill y gystadleuaeth yn erbyn corau o safon’ meddai Richard Vaughan, arweinydd y côr ‘A dw i’n falch gaethon ni’r cyfle i fynd i gefnogi’r Eisteddfod yma sy’n parhau i ddatblygu bob blwyddyn a meithrin talent newydd yn y Cwm’
Bydd y côr nawr yn paratoi ar gyfer eu Cyngerdd Nadolig blynyddol a fydd yn cael ei gynnal yn St Peter’s Church, Y Rhath, Caerdydd ar ddydd Iau 22 Rhagfyr am 7:30.
Ar dechrau fis Hydref llwyddodd nifer o aelodau Côr y Gleision i gwblhau Hanner Marathon Caerdydd. Roed nifer o’r aelodau wnaeth gymryd rhan wedi rhedeg hanner marathon yn y gorffennol ond cofrestrodd grŵp o aelodau, yn cynnwys y cyfeilydd Rhiannon Pritchard, i fod yn rhan o gyfres ‘Alfie’s Angels’ ar BBC Cymru sef y gyfres ble roedd Gareth Thomas cyn gapten rygbi Cymru a’r Llewod yn hyfforddi grŵp o bobl oedd erioed wedi cwblhau hanner marathon o’r blaen.
‘Roedd e’n brofiad gwych, nes i erioed feddwl y baswn i’n gallu rhedeg mor bell, gaethon ni lot o sbort ond o’n i’n rili hapus i gyrraedd y diwedd’ meddai Rhiannon Pritchard
Ar ddiwedd mis Awst 2016 teithiodd Côr y Gleision i Wlad Belg fel rhan o’i dathliadau deng mlwyddiant i gynnal nifer o gyngherddau yn Ghent, Bruges a pherfformio yn seremoni’r Last Post yn Menin Gate. Roedd yn gyfle hefyd i’r côr i ymweld â lleoliadau y rhyfel byd cyntaf fel rhan o ddigwyddiadau i gofio 100 mlynedd ers y rhyfel.
Ar nos Sadwrn 23 Gorffennaf 2016 cynhaliodd Côr y Gleision eu cyngerdd dathlu deg yn Eglwys Gadeiriol Llandaf. Roedd y côr yn rhannu llwyfan gyda cherddorfa’r British Sinfonietta yn ogystal â’r unawdwyr Rhodri Prys Jones a Katy Treharne (‘Christine’ Phantom of the Opera on the West End) a Llywydd y Noson oedd y cyflwynydd BBC Iwan Griffiths. Perfformiodd y côr nifer o’i caneuon poblogaidd dros y ddeng mlynedd diwethaf i gyfeiliant y gerddorfa yn ogystal â hen ffefrynnau o’r gyfres Codi Canu.
Llwyddodd Côr y Gleision i ennill y wobr gyntaf yn y categori Côr Gwerin yn y Cheltenham Festival of Performing Arts ar ddydd Sadwrn y 14eg o Fai 2016.
You must be logged in to post a comment.