Nos Wener y 4ydd o Dachwedd llwyddodd Côr y Gleision i sicrhau’r wobr gyntaf yng nghystadleuaeth y Côr Agored yn Eisteddfod y Cymoedd drwy guro Côr Godre’r Garth a ddaeth yn ail, a Bechgyn Bro Taf a Chôr Cwm Ni a ddaeth yn gydradd drydydd. Beirniaid y gystadleuaeth oedd Eleri Roberts, Arweinyddes Côr Heol y March a Meinir Richards, Arweinyddes Côr Cymysg Llanddarog.
Hwn oedd degfed blwyddyn Eisteddfod y Cymoedd a sefydlwyd i ddathlu Cymreictod yng Nghwm Rhymni a chynhaliwyd yr Eisteddfod yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni, Caerffili.
‘Dw i mor browd o’r Côr yn ennill y gystadleuaeth yn erbyn corau o safon’ meddai Richard Vaughan, arweinydd y côr ‘A dw i’n falch gaethon ni’r cyfle i fynd i gefnogi’r Eisteddfod yma sy’n parhau i ddatblygu bob blwyddyn a meithrin talent newydd yn y Cwm’
Bydd y côr nawr yn paratoi ar gyfer eu Cyngerdd Nadolig blynyddol a fydd yn cael ei gynnal yn St Peter’s Church, Y Rhath, Caerdydd ar ddydd Iau 22 Rhagfyr am 7:30.
You must be logged in to post a comment.