Croeso i wefan Côr y Gleision
![]() |
![]() |
![]() |
Sefydlwyd Côr y Gleision yn 2006 ar gyfer y rhaglen deledu Codi Canu ar S4C. Pwrpas y rhaglen oedd hyrwyddo canu ar derasau rygbi ar hyd a lled Cymru.
Mae gan y côr dros 120 o aelodau erbyn hyn. Mae aelodaeth yn agored i unrhyw un, beth bynnag fo’u hoedran, rhyw neu ethnigrwydd. Nid oes gofyniad am brofiad canu mewn côr o’r blaen, cyn belled y gallwch chi ddal tiwn!
Mae’r côr yn mwynhau amryw o ddigwyddiadau gwahanol dros y flwyddyn o ganu mewn gemau rygbi rhanbarthol a rhyngwladol i berfformio a chystadlu mewn gwyliau corawl rhanbarthol a chenedlaethol. Mae’r côr hefyd yn teithio bob dwy flynedd ac wedi mwynhau nifer o berfformiadau cofiadwy yn Sbaen, Yr Alban a Gwlad Belg hyd yn hyn. Yn 2018 teithiodd y côr i Ontario Ganada i ganu yng Ngwyl Gymraeg Ontario.
You must be logged in to post a comment.