Bydd Côr y Gleision yn perfformio yn Stadiwm Principality cyn y ddwy gêm olaf gartref Pencampwriaeth y Chwe Gwlad y flwyddyn hon. Wedi dechrau llwyddiannus i dîm rygbi Cymru yn erbyn yr Alban mae’r Côr yn hoffi meddwl eu bod wedi chware rhan yn y fuddugoliaeth drwy ganu yn y ‘Fan Zone’ yn Stadiwm Principality cyn y gêm yn erbyn yr Alban. Gyda pherfformiadau o Calon Lân a Cwm Rhondda i floeddiadau Sosban Fach a Delilah, pa ffordd well o fynd i ysbryd y gêm, ac mae mwy i ddod. Bydd y côr yn canu’r anthemau ar y cae gyda’r timoedd cyn y gêm yn erbyn yr Eidal ac wedyn yn dychwelyd i’r ‘Fan Zone’ i ddiddanu’r dorf yn y gêm yn erbyn Ffrainc.
“Mae’n gyfle gwych i ni” meddai Richard Vaughan, Cyfarwyddwr Cerdd y côr. “Ma fe wastad yn grêt i berfformio i dorf rygbi, mae’n lot o hwyl ac mae’r gynulleidfa yn gwbod rhan fwyaf o’r caneuon ac yn ymuno mewn gyda ni”
Yn ystod Cwpan Rygbi’r Byd yn 2015, roedd y côr yn perfformio’n aml yn y ‘Fan Zone’ ar Barc yr Arfau ac o gwmpas y ddinas yn cynnwys perfformiad i dorf o dros 10,000 cyn y gêm dyngedfenol yn erbyn Lloegr. Mae’r côr hefyd yn perfformio’n gyson ym Mharc yr Arfau yn gemau cartref y Gleision.
You must be logged in to post a comment.