Newyddion

Cyngerdd Nadolig 2020

Diolch i bawb a gyfrannodd at lwyddiant ein cyngerdd neithiwr. Cawsom noson i’w chofio. Dymunwn bob hapusrwydd a heddwch i chi dros yr wyl. 🎄🎶

Diolch am eich cefnogaeth drwy gydol y flwyddyn. Edrychwn ymlaen i anturiaethau pellach yn ystod 2020!

Taith Côr y Gleision i Ganada

Wel, daethom i ben a mynd a dod nôl o Ganada, er bod ambell un dal draw yng Nghanada /America. Heb os, gwnaeth y jet-lag fwrw sawl un ohonom i wahanol raddau ond ar y cyfan cawsom ni daith arbennig. Diolch byth fod Toronto a Kinsgton wedi dod dros y tywydd garw a buom yn ffodus iawn i gael tywydd digon da ar gyfer ymweld â rai o leoliadau’r ddinas gan gynnwys y CN Tower a hefyd i ymweld â fferm sydd yn cynhyrchu ‘maple suryp’ . Fferm oedd hi yn wir ac nid canolfan ymwelwyr fel roedd rhai ohonom ni yn disgwyl. Roedd Niagra  yn wirioneddol syfrdanol a llwyddodd criw bach ohonom ganu cytgan  Gwlad, Gwlad yn y twnel yn edrych allan dan y dŵr.

Roedd ein perfformiad cyntaf yn y Selwyn Outreach Centre yn Peterborough, Ontario ar y nos Lun, yn cefnogi eu cyngerdd i lansio’r achos da ‘The Abbeyfield House Society of Lakefield’. Yno cwrddom â Dewi Jones, (ewythr i Eryl Jones, un o’n tenoriaid), Dewi yw Llywydd y prosiect. Yn rhannu’r llwyfan gyda ni‘r noson honno roedd teulu talentog iawn, Rhythm and Grace; chwech o blant gyda’u rhieni yn canu, dawnsio a chwarae nifer o offerynnau. Roedd hefyd yna dri phlentyn ifancach adre fydd yn perfformio gyda’r teulu  cyn bo hir. Cawsom groeso cynnes a noson  gofiadwy yn cwrdd â llawer o bobl â gwreiddiau Cymreig. Cawsom y pleser o gwrdd Mary Smaith , Maer Tref Selwyn a derbyn wrthi Dystysgrif o werthfawrogiad.

Erbyn dydd Mercher roeddem yn teimlo bach mwy effro ar gyfer ein peforfformiad yn Egwlys Beacan yn Beaverton, Ontario lle cawsom eto Dystysgrif o werthfawrogiad gan John Grant, Maer Tref Brock, dywedodd ef “We’re all Welsh tonight”. Derbynniodd Delyth plac i’n croesawu oddiwrth Terry O’Neil o glwb rygbi Brock a chyflwynodd Delyth grys y Gleison wedi’i arwyddo gan y tim fel anrheg.  Roedd elw y cyngerdd yn mynd tuag at y banc bwyd lleol. Yn gynnharach ar ddydd Mercher buom yn ffodus i gael ein cyfarch gan Andy Letham, Maer y Ddinas Kawartha Lakes dros ginio yn St Dave’s Diner ar Highway 35. Mae cwrdd a tri maer mewn wthnos yn dipyn o gamp!

Roedd Gwyl Gymreig Ontario yn llwyddianus iawn, er bod Bws B wedi cael ei oedi ar y ffordd. Ar y ffordd i’r gwesty bu damwain achosodd ddifrod i ffenstr yn y bws, ond doedd neb ar y bws diolch byth, a dwy awr yn ddiweddarach cyrrhaeddod y bws arall i gludo ein cantorion i Kingston. Ar Fws A, cafodd Claudio, ein gyrrwr Eidaledd, bleser mawr ein clywed yn canu O Sole Mio a anthem yr Eidal, ac mae wedi rhoi neges hyfryd ar Trydar ers hynny.

Yn y brif berfformiadau cyflwynon ni anrheg o lun y Côr wedi ei fframio oedd  yn cynnwys teitl bob darn wnaethom ni berfformio tra yng Nghanada, a derbynniom anrheg  o amryw fathodynau-pin i aelodau’r Côr ar y  ffordd.

Buom yn ffodus iawn i gael croeso ‘Canadian’ cynnes iawn gan bawb a hefyd wedi cael cyfle i wneud atgofion hyfryd a llawer o ffrindie newydd ar y ffordd.  Dilynnodd Dewi Jones ni yr holl ffordd lan i Kingston a gwnaeth ddod i’n swper olaf ble cyflwynwyd wobryau’r Daith. I enwi on ychydig: Meurig am Y Siwtcês aeth i Frankfurt, i Mike Bryant (gŵr Anne Derbyshire)  aeth Gwobr i‘r Cefnogwyr am werthu yr holl lyfrau rysait, a mi aeth Gwobr yr Ymwybyddwyr i Bryn Teribl a Rhys Gwirion (Llinos and Trefor).

Ar y cyfan roedd y Daith yn un bythgoiadwy a phleserus iawn, a mae’n wir i ddweud ei fod yn brofiad pwysig arall yn hanes Côr y Gleision. Diolch o galon i bawb a wiethiodd mor galed i drefnu’r trip ac i’r rhai sydd wedi’n cefnogi ar y ffordd. Pwy a ŵyr o ble daw y gwahoddiad nesa ac eraill sydd o’n blaen?

 

Delyth Jones, Cadeirydd

Côr y Gleision yn fyw o Ganada

Rydym yn edrych ymlaen at deithio i Ganada yn hwyrach ym mis Ebrill i gymryd rhan yng Ngŵyl Gymraeg Ontario yn Kingston. Bydd y brif gyngerdd yn cael ei gynnal yn y Spire (gynt y Sydenham United Church) am 8yh ar ddydd Sadwrn 28 Ebrill. Am fwy o wybodaeth a thocynnau, ewch i dudalen Facebook yr Ŵyl neu i wefan yr Ŵyl

Bydd yn benwythnos llawn o hwyl a diwylliant Cymraeg gan gynnwys noson o hwyl gyda’r Noson Lawen ar nos Wener. Ar ôl cyngerdd nos Sadwrn, byddwn yn arwain yr Emynau Cymraeg yn y Gymanfa Ganu ar y dydd Sul, nid unwaith, ond ddwywaith, Bydd yn benwythnos arbennig iawn ac rydym yn falch o gael gwahoddiad. Dewch i’n gweld ac i ymuno yn yr emynau Cymraeg ar ddydd Sul. Gawn ni godi’r to! Dan ni methu aros i gwrdd â’r bobl yn Ontario sydd wedi bod yn gweithio’r galed iawn yn trefnu Gŵyl rhif 57.

Byddwn hefyd yn perfformio mewn cyngerdd yn Peterborough, Ontario ar nos Lun 23 Ebrill yn y Selwyn Outreach Centre am 7yh mewn cyngerdd gala i godi arian tuag at y Abbeyfield House Society yn Lakefield. Gellir prynu tocynnau ar y drws neu o flaen llaw. Mae mwy o wybodaeth ar eu tudalen Facebook

Ar ddydd Mercher 25 Ebrill, byddwn yn perfformio mewn cyngerdd codi arian yn y Beacan Church yn Beaverton am 7yh, felly mae gennym ni raglen lawn i edrych ymlaen ar ei gyfer. Pan na fyddwn yn perfformio, edrychwch allan am luniau ohonom mewn ardaloedd adnabyddus yng Nghanada. Dan ni methu aros i grwydro’r ardal yma o Ontario a chwrdd â’r bobl sydd wedi ein helpu i gyrraedd

Diolch o Galon

Archebwch docynnau yma

Canu Tîm Rygbi Cymru i Fuddugoliaeth

Bydd Côr y Gleision yn perfformio yn Stadiwm Principality cyn y ddwy gêm olaf gartref Pencampwriaeth y Chwe Gwlad y flwyddyn hon. Wedi dechrau llwyddiannus i dîm rygbi Cymru yn erbyn yr Alban mae’r Côr yn hoffi meddwl eu bod wedi chware rhan yn y fuddugoliaeth drwy ganu yn y ‘Fan Zone’ yn Stadiwm Principality cyn y gêm yn erbyn yr Alban. Gyda pherfformiadau o Calon Lân a Cwm Rhondda i floeddiadau Sosban Fach a Delilah, pa ffordd well o fynd i ysbryd y gêm, ac mae mwy i ddod. Bydd y côr yn canu’r anthemau ar y cae gyda’r timoedd cyn y gêm yn erbyn yr Eidal ac wedyn yn dychwelyd i’r ‘Fan Zone’ i ddiddanu’r dorf yn y gêm yn erbyn Ffrainc.

“Mae’n gyfle gwych i ni” meddai Richard Vaughan, Cyfarwyddwr Cerdd y côr. “Ma fe wastad yn grêt i berfformio i dorf rygbi, mae’n lot o hwyl ac mae’r gynulleidfa yn gwbod rhan fwyaf o’r caneuon ac yn ymuno mewn gyda ni”

Yn ystod Cwpan Rygbi’r Byd yn 2015, roedd y côr yn perfformio’n aml yn y ‘Fan Zone’ ar Barc yr Arfau ac o gwmpas y ddinas yn cynnwys perfformiad i dorf o dros 10,000 cyn y gêm dyngedfenol yn erbyn Lloegr. Mae’r côr hefyd yn perfformio’n gyson ym Mharc yr Arfau yn gemau cartref y Gleision.

Diolch yn Fawr

Diolch o galon i bawb ddaeth i’n cefnogi ni yn ein cyngerdd nadolig neithiwr: yr unawdwyr Luke McCall a Non Parry, Welsh Session Orchestra, y tîm technegol, y trefnydd, Capel Tabernacl a phawb ddaeth i’n gwylio.

Diolch yn fawr am eich cefnogaeth parhaus yn 2017. Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda gan bawb yn y Côr 🎼🎄

Cyngerdd Ty-Rhos yn codi £1623 i Parkinsons UK

Roedd y côr yn falch o dderbyn gwahoddiad unwaith eto yng nghapel hardd Tŷ-Rhos yn Sir Benfro gydag Eleri ac Aled Edwards, Llanymddyfri mewn cyngerdd a drefnwyd gan gymuned y capel yn gynnar ym mis Gorffennaf i godi arian i gangen leol Parkinsons UK.

 

 

 

 

 

 

 

Mae’r capel yn sefyll wrth ymyl pentref Tŷ-Rhos ar ael y bryn gyda’i golygfeydd godidog ar hyd y ffermdir gyfagods. Roedd hi werth y daith o Gaerdydd, nid yn unig i weld y machlud haul gogneddus oedd yno i groesawi’r côr ond ar gyfer y te Capel moethus a ddarparwyd yn hael gan gymdogaeth y capel i ddilyn y gyngerdd.

 

 

 

 

 

 

 

Perfformiodd y côr raglen amrywiol i’r gynulleidfa a lenwodd y capel hardd i fyny ac i lawr grisiau. Braint ac anrhydedd ydoedd i berfformio gydag Eleri ac Aled, unawdwyr enwog a dawnus.

Roedd y côr yn falch o glywed gan Bwyllgor Codi Arian y Capel fod y gyngerdd wedi codi £1623 i gangen leol yr elusen Parkinsons UK. Da iawn i bawb wnaeth gymryd rhan! Gobeithio y gallwn ddychwelyd i Tŷ-Rhos i berfformio yn fuan

 

Arweinydd yn rownd derfynol Cân i Gymru

Mae Richard Vaughan, Arweinydd y Côr wedi llwyddo i gyrraedd rownd derfynnol Cân i Gymru 2017 ar ôl iddo cyd-gyfansoddi’r gân “Fy Nghariad Olaf I” gydag Andy Park.

Mae’r gystadleuaeth hon wedi cael ei ddarlledu ers dros 40 o flynyddoedd ac wedi creu clasuron Cymraeg fel “Y Cwm” gan Huw Chiswell a “Gwlad yr Rasta Gwyn” gan Sobin a’r Smaeiliaid.

“Mae’n anrhydedd i mi fel cerddor i gyrraedd y ffeinal, dw i wedi bod yn cyfansoddi gweithiau clasurol corawl ers blynyddoedd ac mae’n braf iawn cael arbrofi a sgwennu mewn arddulliau arall. Yn ogystal, mae’n braf cael hybu a meithrin talent ifanc a dwi wrth fy modd mai Caitlin Mckee fydd yn canu’r gan.” meddai Richard Vaughan

Bydd y gystadleuaeth yn cael ei ddarlledu’n fyw ar S4C ar nos Sadwrn y 11eg o Fawrth am 20:25 ble bydd cyfle i bobl bleidleisio i ddewis y gân fuddugol.

I bleidleisio dros “Fy Nghariad Olaf I” ar y noson, ffoniwch 0900 9510 110
25c yw cost yr alwad o linell BT. Gall y gost amrywio rhwng cyflenwyr a bydd yn sylwedol uwch o ffonau symudol. Peidiwch â ffonio cyn i’r llinellau agor gan na fydd eich pleidlais yn cyfri. (Bydd dim tâl am yr alwad cyn i’r llinellau agor.)

Mwy o wybodaeth i ddod trwy ddilyn #fynghariadolafi a @CorYGleision

Cyngerdd Nadolig Côr y Gleision yn codi dros £2000 i elusen Maggie’s

I gloi dathliadau Côr y Gleision yn 10 mlwydd oed, cynnhaliwyd ein cyngerdd Nadolig yn Eglwys Saint Pedr y Rhath ar yr 22ain o Ragfyr.

Yn dilyn yr arfer, cefnogwyd yr un elusen â chlwb rygbi Gleision Caerdydd, sef Maggie’s; canolfan sy’n darparu cymorth ymarferol ac emosiynol i’r rhai sy’n dioddef o ganser, gan gynnwys eu teuluoedd hefyd.

Clywsom ddisgrifiad teimladol iawn gan Geraint Talfan Davies OBE o’r gwaith da a wneir gan yr elusen, ac felly roedd yn arbennig ein bod wedi llwyddo i godi dros £2000. Rhaid cydnabod ein diolchgarwch dros haelioni’r gynulleidfa yn ogystal â Father Tony Furlong.

Heb os, un o uchafbwyntiau’r perfformiad oedd canu am y tro cyntaf ‘Cysga’n Dawel’, a ysgrifennwyd gan ein arweinydd Richard Vaughan i un o aelodau’r côr, Ffion Wynn Watkins, ar enedigaeth ei mab, gan gynnwys unawd wrth Ffion ei hun.

Mae’r côr yn awr yn edrych ymlaen at flwyddyn arall o gystadlu a pherformio.