I gloi dathliadau Côr y Gleision yn 10 mlwydd oed, cynnhaliwyd ein cyngerdd Nadolig yn Eglwys Saint Pedr y Rhath ar yr 22ain o Ragfyr.
Yn dilyn yr arfer, cefnogwyd yr un elusen â chlwb rygbi Gleision Caerdydd, sef Maggie’s; canolfan sy’n darparu cymorth ymarferol ac emosiynol i’r rhai sy’n dioddef o ganser, gan gynnwys eu teuluoedd hefyd.
Clywsom ddisgrifiad teimladol iawn gan Geraint Talfan Davies OBE o’r gwaith da a wneir gan yr elusen, ac felly roedd yn arbennig ein bod wedi llwyddo i godi dros £2000. Rhaid cydnabod ein diolchgarwch dros haelioni’r gynulleidfa yn ogystal â Father Tony Furlong.
Heb os, un o uchafbwyntiau’r perfformiad oedd canu am y tro cyntaf ‘Cysga’n Dawel’, a ysgrifennwyd gan ein arweinydd Richard Vaughan i un o aelodau’r côr, Ffion Wynn Watkins, ar enedigaeth ei mab, gan gynnwys unawd wrth Ffion ei hun.
Mae’r côr yn awr yn edrych ymlaen at flwyddyn arall o gystadlu a pherformio.
You must be logged in to post a comment.