Mae Richard Vaughan, Arweinydd y Côr wedi llwyddo i gyrraedd rownd derfynnol Cân i Gymru 2017 ar ôl iddo cyd-gyfansoddi’r gân “Fy Nghariad Olaf I” gydag Andy Park.
Mae’r gystadleuaeth hon wedi cael ei ddarlledu ers dros 40 o flynyddoedd ac wedi creu clasuron Cymraeg fel “Y Cwm” gan Huw Chiswell a “Gwlad yr Rasta Gwyn” gan Sobin a’r Smaeiliaid.
“Mae’n anrhydedd i mi fel cerddor i gyrraedd y ffeinal, dw i wedi bod yn cyfansoddi gweithiau clasurol corawl ers blynyddoedd ac mae’n braf iawn cael arbrofi a sgwennu mewn arddulliau arall. Yn ogystal, mae’n braf cael hybu a meithrin talent ifanc a dwi wrth fy modd mai Caitlin Mckee fydd yn canu’r gan.” meddai Richard Vaughan
Bydd y gystadleuaeth yn cael ei ddarlledu’n fyw ar S4C ar nos Sadwrn y 11eg o Fawrth am 20:25 ble bydd cyfle i bobl bleidleisio i ddewis y gân fuddugol.
I bleidleisio dros “Fy Nghariad Olaf I” ar y noson, ffoniwch 0900 9510 110
25c yw cost yr alwad o linell BT. Gall y gost amrywio rhwng cyflenwyr a bydd yn sylwedol uwch o ffonau symudol. Peidiwch â ffonio cyn i’r llinellau agor gan na fydd eich pleidlais yn cyfri. (Bydd dim tâl am yr alwad cyn i’r llinellau agor.)
Mwy o wybodaeth i ddod trwy ddilyn #fynghariadolafi a @CorYGleision
You must be logged in to post a comment.