Ar dechrau fis Hydref llwyddodd nifer o aelodau Côr y Gleision i gwblhau Hanner Marathon Caerdydd. Roed nifer o’r aelodau wnaeth gymryd rhan wedi rhedeg hanner marathon yn y gorffennol ond cofrestrodd grŵp o aelodau, yn cynnwys y cyfeilydd Rhiannon Pritchard, i fod yn rhan o gyfres ‘Alfie’s Angels’ ar BBC Cymru sef y gyfres ble roedd Gareth Thomas cyn gapten rygbi Cymru a’r Llewod yn hyfforddi grŵp o bobl oedd erioed wedi cwblhau hanner marathon o’r blaen.
‘Roedd e’n brofiad gwych, nes i erioed feddwl y baswn i’n gallu rhedeg mor bell, gaethon ni lot o sbort ond o’n i’n rili hapus i gyrraedd y diwedd’ meddai Rhiannon Pritchard
Llwyddwyd i godi £4,500 i elusennau gwahanol yn cynnwys Beating Bowel Cancer, Cancer Research UK, Ochre (codi ymwybyddiaeth o ganser oesoffagaidd) a Muscular Dystrophy
Llongyfarchiadau i bawb gymerodd rhan.
You must be logged in to post a comment.