Ar ddiwedd mis Awst 2016 teithiodd Côr y Gleision i Wlad Belg fel rhan o’i dathliadau deng mlwyddiant i gynnal nifer o gyngherddau yn Ghent, Bruges a pherfformio yn seremoni’r Last Post yn Menin Gate. Roedd yn gyfle hefyd i’r côr i ymweld â lleoliadau y rhyfel byd cyntaf fel rhan o ddigwyddiadau i gofio 100 mlynedd ers y rhyfel.
Roedd y daith yn rhan o gyfres o ddigwyddiadau gwahanol i ddathlu deng mlynedd y côr sydd wedi cynnwys cyngerdd mawreddog yn Eglwys Gadeiriol Llandaf nol ym mis Gorffennaf.
‘Roedd hi’n fraint ac anrhydedd perfformio yn y lleoliadau godidog yma, roedd ymateb y gynulleidfa yn wych ac roedd pawb wedi mwynhau’ meddai Richard Vaughan Cyfarwyddwr Cerdd y Côr
Cyfansoddodd yr arweinydd ddarn o gerddoriaeth ar eiriau ‘Rhyfel’ gan Hedd Wyn sef y prifardd fu farw yn y rhyfel yn arbennig ar gyfer y daith ac roedd canu’r gân yn y cynherddau yn brofiad emosiynnol iawn i’r aelodau â’r arweinydd a chafodd y côr gyfle hefyd i berfformio’r darn o flaen bedd Hedd Wyn
Yn ogystal â hyn roedd digon o gyfle i’ côr i fwynhau a chrwydro’r dinasoedd i goroni’r digwyddiadau dathlu deg mlynedd Côr y Gleision.
You must be logged in to post a comment.