Ar nos Sadwrn 23 Gorffennaf 2016 cynhaliodd Côr y Gleision eu cyngerdd dathlu deg yn Eglwys Gadeiriol Llandaf. Roedd y côr yn rhannu llwyfan gyda cherddorfa’r British Sinfonietta yn ogystal â’r unawdwyr Rhodri Prys Jones a Katy Treharne (‘Christine’ Phantom of the Opera on the West End) a Llywydd y Noson oedd y cyflwynydd BBC Iwan Griffiths. Perfformiodd y côr nifer o’i caneuon poblogaidd dros y ddeng mlynedd diwethaf i gyfeiliant y gerddorfa yn ogystal â hen ffefrynnau o’r gyfres Codi Canu.
‘Roedd y gyngerdd yn crynhoi deng mlynedd o waith i ni fel côr’ meddai Richard Vaughan Cyfarwyddwr Cerdd y côr ers pum mlynedd ‘Y gobaith oedd i ddangos sut rydym ni wedi datblygu fel côr ers cyfres cyntaf Codi Canu ac yn parhau i fynd o nerth i nerth’
‘Roedd e jest yn brofiad ffantastic i ganu mewn lle mor wych, roedd cyfeiliant y gerddorfa a’r lleoliad yn dod â’r gerddoriaeth yn fyw ac roedd y swn yn gan gwaith gwell’ meddai Gwenno Williams sydd wedi bod yn aelod o’r côr ers y cychwyn cyntaf a chyn-gadeirydd y côr.
Bydd y côr yn parhau eu dathliadau deng mlwyddiant gyda thrip i wlad Belg i gynnal cyngherddau mawrweddol yn Bruges a Ghent yn ogystal â pherfformio yn seremoni’r ‘Last Post’ yn Menin Gate yn Ypres.
You must be logged in to post a comment.