Llwyddiant yn Cheltenham

Cheltenham2- new.jpgLlwyddodd Côr y Gleision i ennill y wobr gyntaf yn y categori Côr Gwerin yn y Cheltenham Festival of Performing Arts ar ddydd Sadwrn y 14eg o Fai 2016.

Mae’r côr wedi cystadlu yn yr ŵyl nifer o weithiau dros y blynyddoedd diwethaf a’r flwyddyn hon roedd tri chôr o Gymru yn cystadlu gan gynnwys Cantorion Ardwyn Caerdydd a Chôr Bro Meirion.

Llwyddodd Côr Ardwyn Caerdydd i ennill y categori Côr Cysegredig.

Llongyfarchiadau i’r corau i gyd gafodd lwyddiant yn yr Ŵyl