Mae Côr y Gleision yn dathlu dengmlwyddiant y flwyddyn hon ers ei ffurfio fel rhan o’r gyfres Codi Canu ar S4C. I ddathlu’r garreg fillitir hon yn hanes y côr bydd y côr yn cynnal cyngerdd farwreddog yn Eglwys Gadeiriol Llandaf gyda cherddorfa’r British Sinfonieta. Bydd yn gyngerdd yn cynnwys rhai o ffefrynnau’r côr dros y blynyddoedd yn ogystal â nifer o ganeuon wedi eu cyfeilio i gan y gerddorfa. Yn ogystal a hyn, bydd y côr yn ymweld â Gwlad Belg yn yr Haf fel rhan o’i dathliadau ac yn cael cyfle i ganu yn Menin Gate fel rhan o ddigwyddiadau i gofio 100 mlynedd ers y Rhyfel Byd Cyntaf
I archebu tocynnau ar gyfer Cyngerdd Dengmlwyddiant y côr, cysylltwch â membershipcorygleision@gmail.com
You must be logged in to post a comment.